Bob blwyddyn mae'r Comisiwn Etholiadol yn gwahodd ysgolion, grwpiau ieuenctid, a thimau etholiadau lleol i ymuno â nhw i ddathlu democratiaeth drwy gynnal gweithgareddau sy'n helpu pobl ifanc i ddeall sut mae'n gweithio a sut i gymryd rhan.Â
Eu nod yw cefnogi pobl ifanc i ddatblygu'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnynt i fwrw eu pleidlais a darganfod ffyrdd eraill o gymryd rhan mewn democratiaeth.Â
Mae Wythnos Croeso i Dy Bleidlais yn cyfle i bobl sy'n gweithio gyda phobl ifanc i ddechrau sgwrs am ddemocratiaeth a phleidleisio.
Mae Wythnos Croeso i Dy Bleidlais yn digwydd o ddydd Llun 9 Mawrth i ddydd Sul 15 Mawrth 2026.
Y thema ar gyfer 2026 yw Pam Mae Pleidleisio’n Bwysig , gan roi cyfle i bobl ifanc ddarganfod mwy am sut mae pleidleisio’n gwneud gwahaniaeth a sut y gallant sicrhau bod eu llais nhw'n cael ei chlywed.
Cliciwch isod i gymryd rhan:
Cofrestrwch i gymryd rhan yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Cofrestrwch i gymryd rhan yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Mae'r Comisiwn Etholiadol ar hyn o'r bryd yn cynnig cyfle i ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid roi adborth ar Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026 a derbyn taleb gwerth ÂŁ50 ar gyfer adnoddau. Cliciwch isod i gymryd rhan:
Llenwch y ffurflen i roi adborth ar Wythnos Croeso i Dy Bleidlais
