Canlyniadau Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais.

Rhaglen addysg llythrennedd gwleidyddol yw Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais sy’n arwain at etholiad ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed.

Mae’r prosiect wedi bod yn digwydd ledled Cymru a Lloegr yn y cyfnod cyn Etholiad Cyffredinol y DU 2024, trwy bartneriaeth o sefydliadau ar draws y sectorau democratiaeth ac addysg ieuenctid. Daeth y pleidleisio i ben ar 21ain o Fehefin 2024 ac rydym yn gyffrous i gyhoeddi'r canlyniadau yma.

“Mae yna stigma ynghylch plant yn cymryd rhan a chael llais mewn gwleidyddiaeth. Yn aml nid yw oedolion yn gwrando ar yr hyn sydd gennym i'w ddweud. Mae barn pobl ifanc yn bwysig, ac mae angen inni gael ein clywed. Rwy’n gyffrous bod plant yn cael y cyfle trwy ‘Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais.' i ddweud wrth wleidyddion am y materion sy'n bwysig i ni ac i ddangos i oedolion bod pobl ifanc yn poeni am y dyfodol.”  

— Maddy, 16, o Newcastle

Disgybl o Ysgol Little Ilford yn bwrw ei bleidlais. Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlaid. Llun gan Anna Gordon.

Canlyniadau

Nifer y bobl ifanc a bleidleisiodd: 22,889

Nifer yr ysgolion a grwpiau ieuenctid a gofnododd bleidleisiau: 112

Bydd y canlyniadau yn cael eu darlledu ar Sky FYI ar ddydd Gwener 28ain o Fehefin - gallwch wylio'r sioe yma.

Pleidleisiau yn ôl plaid gwleidyddol

Roedd etholiad Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais. ar gyfer plant yn cynnwys pobl ifanc o 112 o ysgolion a grwpiau ieuenctid a gyflwynodd ddata pleidleisio fel rhan o'n prosiect addysgol. Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais. Nid yw OGOV yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac nid yw canlyniadau'r etholiad i blant yn ganlyniadau pleidleisio.
Derbyniodd plant mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid a gymerodd ran amrywiaeth o adnoddau addysgol diduedd am brosesau gwleidyddol, pleidiau ac ymgeiswyr seneddol a chawsant gyfle i bleidleisio dros eu hymgeisydd dewisol yn eu hetholaeth. Cafodd pleidleisiau eu bwrw’n ddienw drwy bapurau pleidleisio ffisegol a blychau pleidleisio a ddarparwyd gan Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais. Yna cyfrifodd ysgolion a grwpiau ieuenctid a gymerodd ran y pleidleisiau a fwriwyd yn eu lleoliadau a chyflwyno'r canlyniadau i Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais. er mwyn cael eu cyfuno.

Pwy bleidleisiodd?

Pleidleisiodd pobl ifanc ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd a grwpiau ieuenctid yng Nghymru a Lloegr. Un flaenoriaeth i Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais. oedd cynnwys pobl ifanc sy’n cael eu tangynrychioli mewn gwleidyddiaeth, felly gofynnwyd i athrawon ac arweinwyr grwpiau ieuenctid ddweud ychydig wrthym am y bobl ifanc a gymerodd ran. Roedd hyn yn ddewisol ac yn seiliedig ar amcangyfrifon yr arweinwyr, felly nid atebodd pawb, ond i’r rhai a atebodd:

  • Nid oedd 62.85% wedi derbyn addysg ar wleidyddiaeth cyn y prosiect hwn
  • Roedd 39.67% yn bobl ifanc o liw neu o gefndir ethnig lleiafrifol
  • Roedd 34.55% yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim
  • Roedd gan 25.17% anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig
  • Roedd 5.49% wedi profi gofal

Materion sy’n effeithio ar bleidleisiau pobl ifanc

Fel rhan o Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais. anogwyd pobl ifanc i feddwl am y materion a fyddai'n effeithio ar eu dewisiadau pleidleisio. Rhoesom restr o faterion a dynnwyd o arolwg o 2000 o bobl ifanc i ysgolion a grwpiau ieuenctid, gyda chrynodebau polisi maniffesto i gyd-fynd â’r rhestr. Gofynnodd rhai lleoliadau i bobl ifanc restru’r materion yn nhrefn pwysigrwydd iddynt wrth benderfynu sut i bleidleisio. Roedd ganddynt hefyd yr opsiwn i ychwanegu unrhyw faterion eraill a oedd yn bwysig iddynt. Roedd hyn yn ddewisol, ond gallwch weld isod sut roedd y bobl ifanc hynny yn gosod materion yn eu trefn.

  1. Addysg (21.57%)
  2. Iechyd (18.30%)
  3. Hinsawdd a’r Amgylchedd (17.85%)
  4. Costau Byw (16.05%)
  5. Diogelwch (12.46%)
  6. Mewnfudo a Ffoaduriaid (7.68%)
  7. Arall (6.08%)
Roedd cwestiynau’n ymwneud â meysydd polisi yn rhan ddewisol o’r ffurflen. Achos hyn, atebodd 75 o ysgolion allan o 112 y cwestiwn.
Gofynnwyd i leoliadau raddio pob maes polisi o 1-7, gydag 1 yn cyfeirio at y rheswm mwyaf dylanwadol oedd gan eu grŵp dros eu pleidlais, a 7 yn gyfeirio at y rheswm lleiaf dylanwadol. Roedd hyn yn seiliedig ar fwyafrif y grŵp nid ar bleidleiswyr unigol. Mae'n bwysig nodi nad yw canlyniadau'r cwestiwn hwn yn seiliedig ar ymatebion unigol yn yr un ffordd ag y cynhaliwyd pleidlais y blaid, ond yn hytrach ar ddull amcangyfrif a benderfynwyd gan yr oedolion a gynhaliodd y sesiynau. Er mwyn creu rhestr yn nhrefn pwysigrwydd, rhoddwyd sgôr wedi'i phwysoli i bob maes polisi ar gyfer pob lleoliad, yn seiliedig ar nifer y bobl ifanc ym mhob grŵp a'r drefn y gosodwyd y maes polisi . O'r fan hon, roeddem yn gallu cyfrifo'r gyfran ganrannol ar gyfer pob maes polisi, yn gyffredinol ac yn rhanbarthol.

Canlyniadau yn ôl rhanbarth

Mae’r map isod yn dangos sut y pleidleisiodd gwahanol ranbarthau Cymru a Lloegr fel y gallwch gymharu eich canlyniadau â’r rhai yn eich ardal chi a ledled y wlad. Cliciwch ar bob rhanbarth i weld mwy o fanylion. Dangosir y 5 plaid a gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau ym mhob rhanbarth yn y ‘pop up’. Os hoffech weld canlyniadau manylach ar gyfer eich rhanbarth, anfonwch e-bost at team@ourgenerationourvote.org.uk.

Nodwch: Nid yw rhai o ranbarthau Cymru wedi'u nodi ar y map hwn. Mae hyn oherwydd na chymerodd unrhyw leoliadau o'r ardaloedd hyn ran.

Cysylltwch

I ddarganfod mwy am Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais. cysylltwch â ni team@ourgenerationourvote.org.uk neu ewch i’n cyfryngau cymdeithasol.

Dilynwch Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais. ar gyfryngau cymdeithasol yma
Plant o Ysgol Gymraeg Abercynon gyda'u blwch pleidleisio Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais. Llun gan Libby Lawton.