Yn barod i rymuso'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr? Mae ein cwricwlwm chwe gwers yn helpu myfyrwyr i ddysgu gan arweinwyr ysbrydoledig a datblygu'r sgiliau meddwl beirniadol, datrys problemau creadigol a chyfathrebu sydd eu hangen arnynt i fynd i'r afael â heriau yn eu cymunedau.
Eleni, bydd myfyrwyr yn dod yn "ddadgodwyr newyddion" – byddant yn datblygu'r sgiliau meddwl beirniadol, datrys problemau creadigol a llythrennedd cyfryngau i lywio trwy newyddion ffug a pholareiddio. Bydd myfyrwyr yn dysgu gan arbenigwyr blaenllaw trwy wersi sy'n dadansoddi'r dirwedd cyfryngau gyfredol, gan gynnwys effaith deallusrwydd artiffisial, cyfryngau cymdeithasol a rheoleiddio'r wasg. Daw'r rhaglen i ben gyda myfyrwyr yn cyflwyno "Prosiect ar gyfer Newid" i wella llythrennedd cyfryngau yn eu hysgol neu'u cymuned leol.
Mae Gwobr Arweinyddiaeth dros Newid yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gyflwyno eu prosiectau fel rhan o gystadleuaeth fyd-eang. Bydd enillwyr yn derbyn hyd at £1,000 a mentora i wireddu eu prosiectau.