"Mae'r rhaglen #GetInvolved yn galluogi cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i ymgysylltu â gwleidyddiaeth brif ffrwd.
Bydd Sefydliad Patchwork yn cynnal digwyddiadau ar gyfer yr etholiadau lleol, maerol a chyffredinol mewn cydweithrediad â'r pedair prif blaid drwy gydol y flwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys canfasio, hustyngau, gweithdai a chyfleoedd ymgyrchu ehangach ledled y wlad.
Mae sesiynau #GetInvolved ar agor i unrhyw un, waeth beth fo'u gwybodaeth neu brofiad gwleidyddol, ond maent yn anelu'n arbennig at gysylltu â'r rhai nad ydynt efallai wedi ymwneud â gwleidyddiaeth o'r blaen neu sydd eisiau cymryd rhan ond ddim yn gwybod sut.
Gallwch edrych ar y wefan neu anfon e-bost at juliet@patchworkfoundation.org.uk am ragor o wybodaeth.
