Mae Archwilio Etholiadau - Etholiad Senedd 2026 yn cefnogi pobl ifanc 16+ oed i gymryd rhan mewn Etholiad y Senedd, sydd ar 7 Mai 2026.
Drwy Archwilio Etholiadau, cefnogir dysgwyr i gofrestru i bleidleisio. Maent hefyd yn dysgu beth yw pwrpas etholiadau, a sut mae etholiadau yn gyfle i bobl ifanc ddweud eu dweud ynghylch sut mae eu cymuned neu wlad yn cael ei harwain.
Gellir cyflwyno'r gwasanaeth mewn 20 i 30 munud. Roedd angen 45 i 60 munud ar y gweithdy. Fersiwn gryno o'r gweithdy yw'r gwasanaeth, felly dim ond un y dylech ei gyflwyno.
Mae'r adnoddau ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.