Gall Rhaglen Ysgolion Rhaeadr Creadigol y Bocs Democratiaeth© gyfarparu a pharatoi athrawon i efelychu proses cyd-greawdwyr ifanc y Bocs Democratiaeth gyda myfyrwyr 7 i 16 oed ym mhob ysgol uwchradd a chynradd a lleoliadau addysg anffurfiol.
Mae'r rhaglen yn galluogi athrawon a myfyrwyr i ail-adrodd a rhaeadru Stori'r Bocs Democratiaeth yn greadigol mewn sawl ffordd, gan ddatblygu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a chyfranogiad democrataidd ymhlith plant ysgol ac addysgwyr yng Nghymru. Bob blwyddyn bydd myfyrwyr yn dysgu'r stori yn fanylach ac yn ei hail-adrodd a'i rhaeadru i'r flwyddyn islaw gan ddefnyddio sgiliau, cyfryngau a thechnegau creadigol sy'n mynd yn fwyfwy cymhleth flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Mae'r rhaglen yn creu'r sylfaen i ddysgwyr ddechrau datblygu dealltwriaeth o'u cyfrifoldebau fel dinasyddion y DU ac i gydnabod eu hawliau sifil eu hunain a hawliau sifil eraill.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag omidaze@outlook.com
