Gweithgareddau grŵp ieuenctid (Ein Cenhedlaeth Ein Pleidlais | Y Prosiect Gwleidyddiaeth - Cyfri'r Dyddiau Tan yr #Etholiad.

Gweithgareddau grŵp ieuenctid (Ein Cenhedlaeth Ein Pleidlais | Y Prosiect Gwleidyddiaeth - Cyfri'r Dyddiau Tan yr #Etholiad.

Mae'r adnoddau hyn yn rhan o raglen llythrennedd gwleidyddol Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais. ac fe'u cynlluniwyd i gefnogi pobl ifanc i gymryd rhan yn etholiad cyffredinol 2024. Maent yn cynnwys cyfres o gemau byr a gweithgareddau a gynlluniwyd i gefnogi pobl ifanc i drafod ac archwilio materion sy'n ymwneud â phleidleisio, etholiadau a democratiaeth.
Bydd adnoddau ychwanegol ar gael yn nes at yr etholiad megis maniffestos ieuenctid a gwybodaeth am ymgeiswyr a phleidiau. Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y deunyddiau hyn wrth iddynt gael eu rhyddhau, cwblhewch y ffurflen hon .

Gweithgareddau:
➯ Gêm bin papur
➯ Dangoswch yr arian i mi
➯ Gwneud penderfyniad
➯ Dros bwy ddylwn i bleidleisio?
➯ Ble rydych chi'n sefyll?
➯ Archwiliwch faniffestos a phleidleisiwch fel rhan o Ein Cenhedlaeth Ein Pleidlais
➯ Dadansoddi'r canlyniadau

Cyflwyniad i'n Cenhedlaeth Ni. Ein Pleidlais Ni. (Gweithgareddau Ieuenctid)

Croeso i Ein Cenhedlaeth Ein Pleidlais!

Mae'r sesiynau hyn yn cyflwyno dysgwyr i beth yw Ein Cenhedlaeth Ein Pleidlais ac yn eu hannog i gymryd rhan yn y prosiect, ochr yn ochr â miloedd o bobl ifanc eraill ledled Cymru a Lloegr.

Canllawiau CYFLWYNO
Tag Text
Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais. Sesiwn Dechreuol

Gêm y bin papur (Ein Cenhedlaeth Ni. Ein Pleidlais Ni.)

Mae'r gêm bin papur yn cyflwyno'r cysyniad o bleidleisio i bobl ifanc.

Canllawiau CYFLWYNO
Tag Text
Gêm bin papur

Gwneud penderfyniad (Ein Cenhedlaeth Ni. Ein Pleidlais Ni.)

Gellir cynnal y gweithgaredd hwn gyda phobl ifanc i'w hannog i feddwl am feysydd llywodraethu sy'n bwysig iddyn nhw. Gofynnir i bobl ifanc eu rhestru yn nhrefn eu pwysigrwydd, gan weithio'n unigol, mewn partneriaid ac fel grŵp.

Canllawiau CYFLWYNO
Tag Text
Gwneud penderfyniad

Dangoswch yr arian i mi (Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais.)

Mae'r gweithgaredd yn gofyn i bobl ifanc ddyrannu £100 o wariant rhwng gwahanol feysydd sydd angen buddsoddiad.

Canllawiau CYFLWYNO
Tag Text
Dangoswch yr arian i mi

Ble rydych chi'n sefyll? (Ein Cenhedlaeth Ni. Ein Pleidlais Ni.)

Mae'r gweithgaredd hwn yn cefnogi pobl ifanc i feddwl am faterion sy'n bwysig iddyn nhw.

Canllawiau CYFLWYNO
Tag Text
Ble rydych chi'n sefyll?

Dros bwy ddylwn i bleidleisio? (Ein Cenhedlaeth Ni. Ein Pleidlais Ni.)

Mae'r gweithgaredd hwn yn cefnogi pobl ifanc i ddysgu am wleidyddion a phwy sy'n eu cynrychioli, gan gynnwys ble i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol.

Canllawiau CYFLWYNO
Tag Text
Dros bwy ddylwn i bleidleisio?

Pob gweithgaredd ieuenctid (Ein Cenhedlaeth Ni. Ein Pleidlais Ni.)

Pob gweithgaredd i bobl ifanc i'w cynnwys yn yr etholiad cyffredinol sydd ar y gorwel.

Canllawiau CYFLWYNO
Tag Text
Pob gweithgaredd ieuenctid

Archwilio maniffestos a bwrw eich pleidlais!

Canllawiau CYFLWYNO
Tag Text
Archwilio maniffestos a bwrw eich pleidlais!

Y Canlyniadau (Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais.)

Mae'r sesiwn hon (yn y Gymraeg) yn cyflwyno canlyniadau Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais i ddysgwyr o bob oedran ac yn eu cefnogi i ddechrau dadansoddi nhw. Yna mae dysgwyr yn cymharu canlyniadau Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais â chanlyniadau Etholiad Cyffredinol 2024 ac yn dechrau meddwl am sut y gallai'r llywodraeth fuddugol a'u AS etholedig gael effaith ar eu bywydau a'u cymuned. Gwelwch nodiadau'r hwylusydd ar bob sleid am fwy o fanylion a chanllawiau cyflwyno.

Dylai'r sesiwn hon gymryd tua 30 i 50 munud , yn dibynnu ar faint o bobl sy'n cymryd rhan a'r amser a rhoddir i'r gweithgareddau trafod ac hefyd ar os ydych chi'n edrych ar y canlyniadau'n fanylach gyda'ch grŵp drwy'r tudalen canlyniadau Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais., neu jyst yn defnyddio'r wybodaeth ar y sleidiau yn unig.

Ar rai o'r sleidiau, mae cwestiynau ychwanegol neu fwy o fanylion wedi'u hanelu at grwpiau hŷn o bobl ifanc, mae'r rhain wedi'u nodi gan flwch oren. Defnyddiwch/tynnwch yn ôl yr angen ar gyfer oedran ac anghenion eich grŵp.

O'r flwyddyn academaidd newydd ymlaen, bydd Ein Cenhedlaeth. Ein Pleidlais. yn rhannu adnoddau a chyfleoedd ychwanegol i bobl ifanc barhau ag addysg ddemocrataidd a chael eu lleisiau wedi'u clywed yn eu cymunedau a chyda'u AS etholedig. 

Canllawiau CYFLWYNO
Tag Text
Y Canlyniadau