Yn y wers hon wedi’i chreu gan y tîm yn Young Citizens, mae’r disgyblion yn archwilio ystyr 'democratiaeth', a'r ffyrdd y gall dinasyddion gymryd rhan mewn bywyd democrataidd yn y DU. Mae’r disgyblion yn dysgu am rôl y Prif Weinidog, Aelodau Seneddol a phleidiau gwleidyddol, a sut mae etholiad cyffredinol yn gweithio. Byddant yn ystyried pam mae’n bwysig i ddinasyddion fod yn wybodus cyn bwrw eu pleidlais, a sut y gallant gael gwybod am farn ymgeiswyr a phleidiau.
Erbyn diwedd y wers bydd y disgyblion yn gallu:
➯ Disgrifio beth yw ystyr y gair 'democratiaeth';
➯ Archwilio beth yw rôl y Prif Weinidog a'r Aelodau Seneddol;
➯ Nodi beth yw plaid wleidyddol;
➯ Esbonio sut mae etholiad cyffredinol yn gweithio a phwysigrwydd pleidlais gudd;
➯ Archwilio sut y gallant gael gwybod am farn gwleidyddion a pham mae hyn yn bwysig;