Yn y wers hon wedi’i chreu gan y tîm yn Young Citizens, mae’r disgyblion yn dysgu am swyddogaeth llywodraeth ganolog a lleol a'r gwahaniaeth rhwng ASau a chynghorwyr lleol. Mae'r disgyblion yn archwilio gwaith Senedd y DU, gan edrych ar rôl Tŷ'r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Bydd y disgyblion yn archwilio amrywiaeth o faterion sy'n wynebu dinasyddion ac yn penderfynu pa gynrychiolydd gwleidyddol sydd yn y sefyllfa orau i helpu. Yna byddant yn ystyried ym mha ffyrdd y gallan nhw gymryd rhan yn ein democratiaeth, ac yn olaf byddant yn cymhwyso a chydgrynhoi eu dysgu trwy ddylunio plaid wleidyddol newydd a phleidleisio dros ymgeisydd i sefyll mewn etholiad.
Erbyn diwedd y wers bydd y disgyblion yn gallu:
• Archwilio rôl llywodraeth ganolog a lleol;
• Disgrifio’r hyn sy'n digwydd yn Senedd y DU;
• Nodi gwahanol ffyrdd y gallant leisio eu barn i’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol yn eu hardal.