Mae’r ‘stori’ hon yn cynnwys y pethau sylfaenol y credwn dylsai pob dinesydd wybod er mwyn cymryd rhan yn llawn yn ein democratiaeth yn y DU. Mae angen i bob dinesydd fod yn wybodus am ddemocratiaeth y DU a chael ei annog yn weithredol i gymryd rhan, a gwybod ei fod yn hawl ddemocrataidd i herio, cwestiynu, protestio, siapio, beirniadu, dadlau a dylanwadu ar ein democratiaeth drwy’r flwyddyn ac nid yn y blwch pleidleisio yn unig.