
Mae'r adnodd yn cyflwyno sgiliau allweddol ymchwil, dadlau a chyfranogiad mewn llythrennedd gwleidyddol. Mae'n cynnwys deunyddiau gweithdy a darllen sy'n cefnogi datblygiad proffesiynol sgiliau llythrennedd gwleidyddol. Am y set lawn o adnoddau, gweler yma .
Mae angen i bobl ifanc ddeall prosesau democrataidd, a gwybod sut mae'r bobl rydyn ni'n eu hethol, ac sy'n ein cynrychioli mewn cynghorau lleol a seneddau, yn gwneud penderfyniadau pwysig sy'n effeithio ar bron bob agwedd ar ein bywydau beunyddiol. Gellir dod o hyd i'r cyfle i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth mewn llythrennedd gwleidyddol ym mhob maes cwricwlaidd.
Mae'r adnodd hwn yn cefnogi ymarferwyr, ysgolion a lleoliadau cymunedol i fyfyrio ar ba mor dda y maent yn meithrin gallu mewn dysgwyr i ddefnyddio eu llais, cymryd rhan a chyfrannu at brosesau gwneud penderfyniadau sy'n real ac yn ystyrlon.