
Mae'r cynllun gwaith hwn yn cynnwys dwy wers ar gyfer disgyblion CA1 lle maen nhw'n archwilio beth yw pleidleisio, pwy sy'n rhedeg y wlad a sut maen nhw'n cael eu hethol.
Mae disgyblion yn archwilio pwy sy'n rhedeg y wlad a sut maen nhw'n cael eu hethol. Bydd disgyblion yn dysgu am y rĂ´l bwysig y mae ASau yn ei chwarae wrth gynrychioli'r bobl sy'n byw yn eu hetholaethau. Mae'r wers yn gorffen trwy herio disgyblion i ystyried pa faterion y maen nhw'n eu hystyried bwysicaf mewn cymdeithas a pha addewidion y bydden nhw'n ceisio'u gwneud pe bydden nhw'n ffurfio plaid wleidyddol.
Mae disgyblion yn dysgu beth mae pleidleisio yn ei olygu drwy edrych ar enghreifftiau ym mywydau’r cymeriadau ffuglennol, y Go-Givers. Maen nhw’n ystyried pam a sut mae pleidleisiau’n cael eu cynnal ac yn meddwl am sut y gallai pobl deimlo os nad yw eu dewis yn ennill. Daw’r wers i ben gyda chyfle i ddisgyblion bleidleisio mewn sefyllfa ysgol go iawn.