Cyflwyniad i Ddemocratiaeth

Cyflwyniad i Ddemocratiaeth

Mae'r cynllun gwaith hwn yn cynnwys pedwar pecyn o adnoddau sydd wedi'u cynllunio i gyflwyno myfyrwyr i'r cysyniad o ddemocratiaeth.

Cyflwyniad i Ddemocratiaeth Rhan 1 - Beth yw Democratiaeth?

Y cyntaf o set bedair rhan sydd wedi'i chynllunio i gyflwyno myfyrwyr i'r cysyniad o ddemocratiaeth. Gellir cyflwyno pob un o'r pecynnau'n annibynnol ar ei gilydd, neu eu cyfuno i ffurfio cynllun gwaith ehangach.

Mae myfyrwyr yn ystyried beth yw democratiaeth, pam ei bod hi'n bwysig a sut mae'n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Drwy gymryd rhan bydd myfyrwyr yn gallu ateb cwestiynau allweddol fel:

Beth mae democratiaeth yn ei olygu?
Beth yw nodweddion allweddol gwlad ddemocrataidd?
Sut mae democratiaeth wedi esblygu drwy gydol hanes a sut y gallai barhau i esblygu?
Beth yw nodweddion allweddol Senedd y DU?
Sut mae'r Senedd yn wahanol i'r Llywodraeth?

Canllawiau CYFLWYNO
Tag Text
Beth yw Democratiaeth?

Cyflwyniad i Ddemocratiaeth Rhan 2 - Pleidleisio a'r Etholiad Cyffredinol

Yr ail o set bedair rhan sydd wedi'i chynllunio i gyflwyno myfyrwyr i'r cysyniad o ddemocratiaeth. Gellir cyflwyno pob pecyn yn annibynnol ar ei gilydd, neu eu cyfuno i ffurfio cynllun gwaith ehangach.

Mae myfyrwyr yn ystyried y broses ddemocrataidd o bleidleisio, beth sy'n digwydd yn ystod etholiad cyffredinol a beth yw'r rhwystrau a'r atebion mewn perthynas â phobl ifanc yn pleidleisio. Drwy gymryd rhan bydd myfyrwyr yn gallu ateb cwestiynau allweddol fel:

Beth yw etholiad cyffredinol?
Sut mae pobl yn pleidleisio?
Pam ddylai pobl bleidleisio?
Beth yw'r rhwystrau sy'n atal pobl ifanc rhag pleidleisio?
Sut gellir goresgyn y rhwystrau hyn?

Canllawiau CYFLWYNO
Tag Text
Pleidleisio a'r Etholiad Cyffredinol

Cyflwyniad i Ddemocratiaeth Rhan 3 - Llywodraeth Leol a Chanolog

Y trydydd pecyn o bedwar sydd wedi'u cynllunio i gyflwyno myfyrwyr i'r cysyniad o ddemocratiaeth. Gellir cyflwyno pob pecyn yn annibynnol ar ei gilydd, neu eu cyfuno i ffurfio cynllun gwaith ehangach.

Mae myfyrwyr yn archwilio'r gwahaniaeth rhwng llywodraeth leol a llywodraeth ganolog. Drwy gymryd rhan bydd myfyrwyr yn gallu ateb cwestiynau allweddol fel:

Beth yw swyddogaethau a rolau allweddol llywodraeth leol a chanolog?
Beth yw'r prif wahaniaethau rhwng llywodraeth leol a llywodraeth ganolog?
Sut mae llywodraethau lleol yn gwneud ac yn gwario arian?
Sut gall pobl ifanc sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ymhlith gwneuthurwyr penderfyniadau lleol?

Canllawiau CYFLWYNO
Tag Text
Llywodraeth Leol a Chanolog

Cyflwyniad i Ddemocratiaeth Rhan 4 - Beth yw Plaid Wleidyddol?

Y pedwerydd pecyn o set o bedwar sydd wedi'u cynllunio i gyflwyno myfyrwyr i'r cysyniad o ddemocratiaeth. Gellir cyflwyno pob pecyn ar wahan, neu eu cyfuno i ffurfio cynllun gwaith ehangach. Mae'r pecyn yn cynnwys pedwar gweithgaredd ar wahân lle bydd myfyrwyr yn archwilio:

Beth yw plaid wleidyddol.
Pwrpas y maniffestos.
RĂ´l a chyfrifoldebau AS.
Pa flaenoriaethau fyddai ganddyn nhw pe bydden nhw'n ffurfio plaid wleidyddol.

Canllawiau CYFLWYNO
Tag Text
Beth yw Plaid Wleidyddol?