.png)
Yn y wers hon a a grëwyd gan y tîm yn Young Citizens, mae’r disgyblion yn archwilio pam mae angen deddfau arnom a sut y cânt eu llunio gan ddefnyddio ein systemau seneddol. Mae’r disgyblion yn dysgu am y gwahanol rolau sy'n cyfrannu at greu a chynnal y ddeddf. Maent yn archwilio beth mae rheolaeth cyfraith yn ei olygu ac yn ystyried pam mae’n bwysig i ddinasyddion fod yn wybodus am y system gyfreithiol. Mae’r disgyblion yn archwilio pwy sydd â'r pŵer i lunio a newid deddfau a sut mae hyn yn effeithio ar etholiadau
Erbyn diwedd y bydd y disgyblion yn gallu:
➯ Disgrifio gwahanol rolau senedd y DU, y llywodraeth a’r system gyfiawnder;
➯ Diffinio beth yw ystyr 'rheolaeth cyfraith' a pham y mae’n bwysig;
➯ Esbonio sut mae'r deddfau’n cael eu llunio a phwy sydd â'r pŵer i'w newid;
➯ Nodi gwahanol ffyrdd y gallwn leisio ein barn i’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol yn ein hardaloedd.
Mae disgyblion yn dysgu am ddemocratiaeth a rheolaeth y gyfraith. Maent yn darganfod gwahanol rolau’r Senedd, y llywodraeth a’r system gyfiawnder. Mae disgyblion yn archwilio pam mae angen cyfreithiau arnom a sut maen nhw’n cael eu gwneud. Yn olaf, mae disgyblion yn ystyried pa gyfreithiau newydd yr hoffent eu gweld yn cael eu cyflwyno a sut i wneud i’w lleisiau gael eu clywed gan y rhai mewn swyddi pŵer.
Mae'r adnodd hwn gan ddarparwr allanol. Ydych chi'n caniatáu i ni rannu eich manylion cyswllt gyda nhw? (Dewisol)